![]() |
Beth yw gwaith gwirfoddol? Gwaith gwirfoddol ydyw unrhyw weithgaredd y bydd person yn ei wneud am ddim, ac oí ddewis rhydd. Mae'n galluogi pobl i gynnig eu gwasanaeth y tu hwnt i angen ariannol neu ddyletswydd cymdeithasol. Gall fod yn ddigymell, neu yn fwriadol ac wedi ei drefnu. Mae gwirfoddolwyr yn cyfrannu tuag at well ansawdd bywyd yn eu cymuned leol. Gyda mwy o bwyslais ar ofal yn y gymuned, ni fyddai'r rhan fwyaf o'r gwasanaethau yn gallu cael eu cynnal yn effeithiol heb ymroddiad a chefnogaeth gwirfoddolwyr. Pam gwirfoddoli? Ydych chi eisiau :
Beth ydym yn ei gynnig ?
Beth allwch gynnig ? Mae gwaith gwirfoddol yn golygu ymrwymiad i wneud rhiwbeth 'ich cymuned. Ni fyddwch yn cael eich talu am wneud gwaith gwirfoddol, felly mae'n bwysig y byddwch yn gwneud rhywbeth y byddwch yn elwa oddi wrtho mewn ffyrdd eraill. Dylech fod yn glir am eich anghenion personol, a beth yr ydych yn disgwyl gael wrth wirfoddoli, cyn i chi ddechrau unrhyw waith gwirfoddol. Gofynnwch i chwi eich hyn:
Cofiwch ein bod i gyd yn defnyddio sgiliau a doniau yn ein bywyd pob dydd. Cofiwch ddweud wrthym am unrhyw sgil neu ddawn arbennig sydd gennych ac yr ydych yn hyderus o'u defnyddio, efallai y byddwn yn gallu eu defnyddio tuag at waith Tan y Maen. Cofiwch fod gan bawb rhywbeth i'w gynnig. |
Siarter Gwirfoddolwyr Mae gan bob unigolyn yr hawl i wirfoddoli, ac mae gan wirfoddolwyr hawliau y dylid cydnabod tra yn gwirfoddoli. Gwaith cyfreithlon yw gwirfoddoli ac nid gwaith rhad ac am ddim.
Efallai y bydd gwirfoddolwyr yn teimlo'n annifyr gofyn am fydd dal a dim yn medru parhau gyda'r gwaith. Os nad yw gwirfoddolwyr eisiau tâl fe all rhoi'r arian yn ôl i'r asiant penodol.
|
Eich cyfrifoldebau Swydd: Hwyluswyr galw i mewn Dyletswyddau yn cynnwys :
Telir costau teithio yn ôl ac ymlaen i'r ganolfan ar raddfa o 32c y filltir neu costau trafnidiaeth cyhoeddus (dylid anfon tocynnau bws / tren i mewn gyda'r ffurflenni costau teithio) a dylid sicrhau eu bod yn cyrraedd y swyddfa cyn ddiwedd y mis. COFIWCH, DIM CYNGHORI O GWBL |
Rhinweddau personol Bydd gwirfoddolwyr yn cymeryd rhan mewn darpariaeth, cefnogaeth a chwmpeini i bobl sydd naill ai yn cael profiad neu yn gwella oddi wrth broblemau iechyd meddwl, felly mae'n hanfodol bod ganddynt sgiliau cyd-bersonol da iawn. Mae'n angenrheidiol fod gwirfoddolwyr yn gweithio fel tîm a bod ganddynt y gallu i dderbyn safbwynt pobl eraill ac i barchu'r unigolyn a gwahaniaeth barn. Mae agwedd gydymdeimladwy hefyd yn rhinwedd pwysig. Mae cyfrinachedd yn rhan annatod o'r gwasanaeth a gynigir a disgwylir i'n gwirfoddolwyr sicrhau eu bod yn cynnal cyfrinachedd mewn perthynas ac unrhyw wybodaeth ynglyn â'u cydweithwyr, defnyddwyr y gwasanaeth a'r ganolfan ei hun. Disgwylir i'r gwiddfoddolwyr ddod yn gyfarwydd a pholisi gweithredol y ganolfan. Darperir cefnogaeth a goruchwyliaeth ar sail unigol a thrwy gyfarfodydd grŵp. Gellir trafod unrhyw fater o bwys gyda'r Gweithiwr Datblygu yn ôl y gofyn. Dylai'r gwirfoddolwyr deimlo fod ganddynt gefnogaeth ar bob achlysur. Yr ydym yn annog ein gwirfoddolwyr i gyrannu cynigion a sylwadau a fydd o gymorth i ddatblygu y gwasanaeth a'r gweithgareddau o fewn y ganolfan, ac i gymeryd rhan mewn unrhyw weithgaredd yn ôl eu diddordeb. Gobethir y gall y gwirfoddolwyr ddefnyddio a datblygu eu sgiliau personol eu hunain. Bod yn ddibynadwy a phrydlon ar gyfer eich dyletswyddau, mae gwirfoddolwyr Tan y Maen yn gweithio ar sail rota, ac yr ydym yn gofyn am leiafswm o 3 awr yr wythnos gennych. Dylech geisio eich gorau i roi digon o rybydd i ni os na fyddwch ar gael ar gyfer eich dyletswyddau penodedig. Dylech ymdrechu i gyrraedd ar amser - cofiwch eich bod yn rhan o dîm, a bod eich cydweithwyr yn dibynnu arnoch. Mae Tan y Maen yn gweithredu polisi cyfartal sydd yn berthnasol i wirfoddolwyr, defnyddwyr y gwasanaeth, a staff chyflogedig. Mae'r ganolfan hefyd yn gweithredu polisi dwy ieithog byw a chyflawn yn mhob agwedd o'r gwaith. |
Hyfforddiant Fe fydd gwirfoddolwyr sy'n ymuno a gwaith gwirfoddol yn Tan y Maen yn cael hyfforddiant cychwynnol. Rydym yn cynnig hyfforddiant mewn swydd ac rydym yn cefnogi'r gwirfoddolwyr i gymeryd mantais o'r cyfleoedd sydd ar gael. Gobeithir y gall y gwirfoddolwyr ddefnyddio a datblygu eu sgiliau personol eu hunain. |
Pethau i'w hystyried Meddyliwch pam eich bod eisiau gwirfoddoli yng Nghanolfan Tan y Maen. Gofynnwch gwestiynau. Gwnewch yn siwr eich bod yn gwybod i bwy yr ydych yn atebol a phwy i droi at am gefnogaeth. Cofiwch hawlio eich costau. Cadwch at y trefniadau ynglyn â'ch dylestswyddau - os na allwch gadw atynt, neu os byddwch am fod yn hwyr, gwnewch eich gorau i roi gwybod i ni mewn digon o bryd. Cofiwch eich bod yn rhan gwerthfawr o'r tîm. Dywedwch na, os y teimlwch ein bod yn gofyn gormod gennych. Mwynhewch eich hun. Peidiwch â chychwyn eich gwaith gwirfoddol nes y byddwch yn hollol sicr o beth fydd yn cael ei ddisgwyl ohonnoch, a'ch bod yn sicr ei fod yn rhywbeth yr ydeych eisiau ei wneud. Peidiwch â gorymestyn eich hun - peidiwch â chynnig mwy o amswer na allwch ei roi yn rheolaidd heb achosi straen ar eich bywyd personol. Yr ydym yn ymwybodol bod gennych fywyd y tu allan i'r Ganolfan. Mae bod yn ddibynadwy yn hanfodol. Peidiwch â troi i fyny ar gyfer eich delytswyddau - os y byddwch yn diflasu, neu yn cael unrhyw broblem, cofiwch fod rhywun ar gael bob amser i drafod y mater gyda chi. Peidiwch â gwneud dim sydd yn groes i'ch dymuniadau a'ch egwyddorion. Ceisiwch bob amser i drafod y mater gyda'r sawl sydd mewn goruchwyliaeth. |
![]() |
| Registered Charity Number: 1081713 Site Design © 2007 Gareth V. Jones |