Cymraeg English
AdrefNewyddionAmseroedd agorPwy ydym ni?Ein hathroniaethGwasanaethauGweithgareddauGwirfoddoliCysylltu
Adref Amseroedd agor Pwy ydym ni? Ein hathroniaeth Gwasanaethau Gweithgareddau Gwirfoddoli

 

30 Tachwedd 2007

Ar fore Gwener, Tachwedd 30ain, derbyniodd defnyddwyr Canolfan Tan y Maen gyflwyniad ar ddiogelwch yn y cartref gan Gwyn Roberts, Swyddog Diogelwch gyda Gwasanaeth Tan Gogledd Cymru. Roedd y cyflwyniad hefyd yn cyfeirio at y gwasanaeth rhad ac am ddim mae'r gwasaneth tan yn ei gynnig ar gyfer gosod larymau mwg yng nghartrefi trigolion lleol. Yn dilyn cyflwyniad Gwyn, bydd amryw o ddefnyddwyr y Ganolfan yn manteisio ar y gwasanaeth pwysig yma gan leihau peryg iddynt a'u heiddo rhag tan yn y cartref.

Gwyn Roberts Diogelwch yn y cartref

 

26 Hydref 2007

Lansiad Swyddogol Safle We Tan y Maen.

Bore heddiw daeth nifer o drigolion lleol a chynrychiolwyr o sawl corff draw i Dan y Maen ar gyfer lansiad swyddogol ein safle we, www.tanymaen.co.uk gan Lywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas. Mae'r safle gafodd ei dylunio yn wirfoddol gan Gareth Vaughan Jones o'r Blaenau bellach ar lein a'r bwriad yw, y bydd safle yn ddrws rhythiol i mewn i Dan y Maen a'r ystod o wasanaethau a chefnogaeth yr ydym yn cynnig. Dyma ddetholiad o luniau o'r lansiad.

Lansiad Swyddogol Lansiad Swyddogol Lansiad Swyddogol
     
Lansiad Swyddogol Lansiad Swyddogol Lansiad Swyddogol
     
Lansiad Swyddogol Lansiad Swyddogol Lansiad Swyddogol
     
  Lansiad Swyddogol  
     

 

 

22 Hydref 2007

Safle We newydd yn dod a gwasanaethau yn nes at y gymuned.

Bwriad safle we newydd fydd yn cael ei lansio ar ddydd Gwener, Hydref 26ain yw dod a gwasanaethau hanfodol a gwybodaeth yn agosach i’r gymuned ym Mlaenau Ffestiniog a’r ardal ehangach ym Meirionnydd.

Mae Canolfan Tan y Maen Centre ym Mlaenau Ffestiniog yn darparu ystod o wasanaethau a mynediad tuag at gymorth i ddioddefwyr salwch iechyd meddwl, eu teuluoedd a’u gofalwyr.

Bydd y Safle, tanymaen.co.uk sydd wedi ei dylunio yn wirfoddol gan Gareth Vaughan Jones o’r Blaenau yn cael ei lansio yn swyddogol yng Nghanolfan Tan y Maen gan yr Aelod Cynulliad lleol, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas Elis-Thomas am 11yb. Bydd mynychwyr y lansiad hefyd yn cael cyfle i weld arddangosfa o waith celf a chrefft defnyddwyr y Ganolfan yn ogystal â chlywed cân neu ddwy gan grŵp cerddorol y Ganolfan.

Dywedodd Cydlynydd Canolfan Tan y Maen, Gwilym Euros Roberts; “Mae gofal iechyd meddwl wedi bod yn y newyddion yn aml iawn yn ddiweddar, gyda’r Llywodraeth yn San Steffan yn buddsoddi miliynau i leihau achosion o iselder ac mae’r Gweinidog Iechyd Cysgodol yn y Cynulliad Cenedlaethol, Jonathan Morgan AC wedi galw am ddeddfau gwell yng Nghymru i ymrafael a phroblemau iechyd meddwl yng Nghymru.” .

Ychwanegodd, “Canolfan adnoddau iechyd meddwl bychan yw Tan y Maen, serch hynny, rydym yn darparu gwasanaeth a chefnogaeth hanfodol o bwysig ym Mlaenau Ffestiniog a’r ardal ehangach ym Meirionnydd. Trwy ddatblygu'r Safle We rydym yn gobeithio mynd a’r gwasanaethau a’r gefnogaeth sydd ar gael trwy wahanol asiantaethau sydd yn defnyddio’r Ganolfan yn agosach at y bobol. Fel mae ein harfbais yn dweud, ein bwriad ydi “Agor drysau” i bobol, felly nid oes angen i ddioddefwyr salwch iechyd meddwl fyw mewn unigedd gan fydd ein drws yn wastad ar agor, boed hynny yn rhithiol neu mewn reality drwy ein gwasanaeth galw i mewn”.

Os oes gennych ddiddordeb mewn defnyddio’r adnoddau, gwasanaethau neu dderbyn cefnogaeth yn Nhan y Maen, cysylltwch gyda’r Ganolfan ar (01766)830 203, e-bostiwch tanymaen@btinternet.com neu ymwelwch â www.tanymaen.co.uk. Rydym wastad yn edrych am wirfoddolwyr i’n cefnogi ni gyda’n gwaith. Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli yn Nhan y Maen, yna ffoniwch Annwen Price Jones ar (01766) 830203am sgwrs anffurfiol. .

 

National Lottery Logo
Registered Charity Number: 1081713
Site Design © 2007 Gareth V. Jones